OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1763 (Cy. 178)
CARTREFI SYMUDOL, CYMRU
Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth fanwl ynghylch gwerthu a rhoi cartrefi symudol yn anrheg ac aseinio cytundebau o dan ddarpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”).
Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi'r wybodaeth a'r dogfennau y mae'n rhaid i feddiannwr cartref symudol eu darparu i brynwr arfaethedig (y cyfeirir ato fel “y meddiannydd arfaethedig”) cyn y gellir cwblhau gwerthiant. Mae Atodlen 1 yn rhagnodi ar ba ffurf y mae'n rhaid i'r wybodaeth honno gael ei darparu.
Mae Rheoliadau 4 (mewn perthynas â gwerthiannau) a 5 (mewn perthynas â rhoi yn anrheg) yn rhagnodi'r wybodaeth y mae’n rhaid i feddiannwr ei darparu i berchennog y safle mewn achosion pan nad yw'r cytundeb y mae'r meddiannydd yn bwriadu ei aseinio yn gytundeb newydd (diffinnir “cytundeb newydd” ym mharagraff 9(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013). Mae Atodlenni 2 a 3 yn rhagnodi'r ffurfiau i'w defnyddio wrth ddarparu'r wybodaeth honno i berchennog y safle.
Pan fo meddiannydd cartref symudol yn bwriadu rhoi'r cartref symudol yn anrheg ac aseinio'r cytundeb i aelod o'i deulu (fel y’i diffinnir yn adran 55(3) o Ddeddf 2013), rhaid iddo roi'r ‘tystiolaeth berthnasol’ (fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013) i berchennog y safle. Yn unol â'r pŵer ym mharagraff 12(2)(a), mae rheoliad 6 yn rhagnodi mathau penodol o dystiolaeth a fydd yn cyfrif yn ‘tystiolaeth berthnasol’. Yn unol â pharagraff 12(2)(b) mae'r ‘tystiolaeth berthnasol’ hefyd yn golygu unrhyw dystiolaeth foddhaol arall fod y person o dan sylw yn aelod o deulu'r meddiannydd.
Mae Rheoliad 7 yn rhagnodi ar ba seiliau y caiff perchennog y safle wneud cais i'r tribiwnlys am orchymyn yn atal y meddiannydd rhag gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg (yn ôl y digwydd), ac aseinio'r cytundeb, i'r meddiannydd arfaethedig (“gorchymyn gwrthod”). Dim ond mewn achosion pan nad yw'r cytundeb yn gytundeb newydd y mae hawl i wneud cais am orchymyn gwrthod.
Mae Rheoliad 8 yn rhagnodi uchafswm y comisiwn sy'n daladwy i berchennog y safle gan y meddiannydd newydd ar werthiant cartref symudol.
Mae Rheoliad 9 (ac Atodlenni 4 a 5) yn cynnwys y gofynion gweithdrefnol y mae'r partïon i gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad ag aseinio'r cytundeb, ac mae rheoliad 10 yn pennu'r gofynion gweithdrefnol i gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â thalu comisiwn.
Mae Rheoliad 11 yn darparu pan fo rheol a wnaed gan y perchennog cyn 1 Hydref 2014 yn ymwneud â gwerthu cartref symudol, na fydd yn cael unrhyw effaith i'r graddau ei fod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a bennir yn y rheoliad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru o ran cynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae'r Asesiad Effaith a luniwyd ar gyfer Bil Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol a gellir cael copi gan yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1763 (Cy. 178)
CARTREFI SYMUDOL, CYMRU
Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014
Gwnaed 2 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 1 Hydref 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 52(3) ac (8), 63(1), (8) a (9) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013([1]), a pharagraffau 9(4) a (6), 10(5), (7), (8) a (10), 11(2) a (4), 12(2) a (5) a 13(5), (7) a (9) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 iddi.
Enwi a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Hydref 2014.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cytundeb” (“agreement”) yw cytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf 2013 yn gymwys iddo;
ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw’r datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 49(1) o Ddeddf 2013;
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;
mae i “ffi am y llain” (“pitch fee”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 62 o Ddeddf 2013;
mae i “llain” (“pitch”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 55(1) o Ddeddf 2013;
mae i “meddiannydd” (“occupier”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 55 o Ddeddf 2013;
ystyr “meddiannydd arfaethedig” (“proposed occupier”) yw person y mae'r meddiannydd yn bwriadu gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg iddo ac aseinio'r cytundeb sy'n ymwneud â'r cartref symudol iddo;
ystyr “rheolau cyn cychwyn” (“pre-commencement rules”), mewn perthynas â safle, yw rheolau a wneir gan y perchennog cyn i adran 52 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn, sy'n ymwneud â mater a grybwyllir yn adran 52(2) o Ddeddf 2013;
mae i “rheolau safle” (“site rules”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 52(2) o Ddeddf 2013;
ystyr “safle” (“site”) yw safle gwarchodedig fel y'i diffinnir yn adran 2(2) o Ddeddf 2013; ac
mae i “Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsies and Travellers”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 62 o Ddeddf 2013.
Gwerthu cartref symudol: darparu gwybodaeth a dogfennau i feddiannydd arfaethedig
3.—(1) Dyma'r dogfennau a ragnodir at ddibenion paragraff 11(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013—
(a) copi o'r cytundeb a'r datganiad ysgrifenedig;
(b) pan gafodd y cytundeb ei aseinio i'r meddiannydd, copi o'r offeryn sy'n rhoi effaith i'r aseiniad hwnnw;
(c) copi o unrhyw reolau cyn cychwyn ar gyfer y safle sydd mewn grym;
(d) copi o unrhyw reolau safle ar gyfer y safle sydd mewn grym;
(e) tystiolaeth ddogfennol o unrhyw daliadau sy'n ymwneud â'r cartref symudol neu'r safle sy'n daladwy i'r perchennog neu i drydydd parti ar gyfer nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill, gan gynnwys manylion pryd y mae angen talu'r taliadau hyn a phryd y mae angen eu hadolygu nesaf;
(f) tystiolaeth ddogfennol o unrhyw daliadau eraill sy'n ymwneud â'r cartref symudol neu'r safle sy'n daladwy i'r perchennog neu i drydydd parti, gan gynnwys taliadau ar gyfer defnyddio garej, lle parcio neu dŷ allan;
(g) copi o unrhyw warant ar gyfer y cartref symudol sy'n parhau yn ddilys ac sydd ym meddiant y meddiannydd; ac
(h) copi o unrhyw arolwg strwythurol o'r cartref symudol, sylfaen neu lain sydd wedi ei gomisiynu gan y meddiannydd a'i gynnal gan berson cymwys addas yn y 12 mis cyn y dyddiad pan gaiff y dogfennau eu darparu i'r meddiannydd arfaethedig.
(2) Pan nad yw'r meddiannydd yn gallu darparu unrhyw un neu ragor o'r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid darparu eglurhad ysgrifenedig i'r meddiannydd arfaethedig yn egluro pam.
(3) Dyma'r wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 11(2)(b) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013—
(a) y pris arfaethedig ar gyfer gwerthu’r cartref symudol;
(b) manylion y comisiwn a fyddai'n daladwy gan y meddiannydd arfaethedig yn rhinwedd paragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd);
(c) manylion y ffi am y llain sy'n daladwy i'r perchennog, gan gynnwys pryd y mae'n daladwy a'r dyddiad adolygu nesaf (mae i “dyddiad yr adolygiad” yr ystyr a roddir iddo ym mharagraff 1 o Bennod 1 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013);
(d) manylion unrhyw ôl-ddyledion ffioedd am y llain neu unrhyw daliadau eraill sy'n daladwy o dan y cytundeb sydd heb eu talu ar yr adeg pan gaiff y dogfennau a'r wybodaeth sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn eu darparu i'r meddiannydd arfaethedig, a manylion unrhyw drefniadau yr ymrwymir iddynt gyda'r perchennog ynghylch clirio unrhyw ôl-ddyledion o’r fath;
(e) band prisio'r dreth gyngor sy'n berthnasol i'r cartref symudol;
(f) enw'r perchennog a'r cyfeiriad lle gellir cyflwyno hysbysiadau i'r perchennog, ar yr amod bod yr wybodaeth hon wedi ei darparu i'r meddiannydd yn unol â pharagraff 24 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 neu, pan nad yw'r cyfeiriad hwn wedi cael ei ddarparu, unrhyw gyfeiriad hysbys arall ar gyfer y perchennog;
(g) enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol y mae'r cartref symudol wedi ei leoli yn ei ardal;
(h) eglurhad o'r gofynion gweithdrefnol a ragnodir yn rheoliadau 9 a 10;
(i) y dyddiad pan gafodd y cytundeb ei wneud a, pan nad oedd y meddiannydd yn un o bartïon gwreiddiol y cytundeb, y dyddiad pan gafodd y cytundeb ei aseinio i'r meddiannydd;
(j) pan nad yw'r cytundeb yn gytundeb newydd, eglurhad o effaith paragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (ac mae i “cytundeb newydd” yr ystyr a roddir iddo ym mharagraff 9(2) o'r Bennod honno);
(k) datganiad yn cadarnhau mai'r meddiannydd yw perchennog cyfreithiol y cartref symudol a'i fod yn gwerthu'r cartref symudol gyda meddiant gwag ac nad oes unrhyw fenthyciadau sydd heb eu talu mewn perthynas â'r cartref symudol; ac
(l) manylion unrhyw achosion cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r cartref symudol, y cytundeb neu'r safle y mae'r meddiannydd yn barti iddo ac sydd wedi eu cyhoeddi neu eu cychwyn, ond nad ydynt wedi cael eu gwaredu neu eu tynnu'n ôl, ar yr adeg y caiff yr wybodaeth ei danfon neu ei hanfon at y meddiannydd arfaethedig.
(4) Rhaid i'r wybodaeth gael ei darparu yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 1, neu mewn ffurf sy'n cael yr un effaith yn sylweddol.
Cytundebau presennol: Hysbysiad o'r bwriad i werthu
4.—(1) Yr wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 10(5) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw'r wybodaeth a bennir ym mharagraffau (2) i (6).
(2) Ym mhob achos mae'r wybodaeth yn cynnwys—
(a) enw'r meddiannydd arfaethedig;
(b) eglurhad o effaith is-baragraffau (1) i (4) o baragraff 10 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013; ac
(c) ar ba seiliau a ragnodir yn rheoliad 7 y caiff y perchennog wneud cais i'r tribiwnlys am orchymyn gwrthod.
(3) Mewn achosion pan fo gan y safle reolau cyn cychwyn neu reolau safle, mae'r wybodaeth hefyd yn cynnwys datganiad yn cadarnhau—
(a) bod y meddiannydd wedi darparu copi o'r rheolau hynny i'r meddiannydd arfaethedig; a
(b) bod y meddiannydd arfaethedig wedi darllen ac wedi deall y rheolau (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a bod y meddiannydd arfaethedig yn gallu cydymffurfio â hwy.
(4) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy'n ymwneud ag oedran y meddianwyr, mae'r wybodaeth hefyd yn cynnwys oedran y meddiannydd arfaethedig ac unrhyw berson sy'n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda'r meddiannydd arfaethedig.
(5) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid, mae'r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw anifeiliaid y mae'r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson arall sy'n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda'r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu cadw ar y safle (gan gynnwys, pan mai ci yw'r anifail, frîd y ci).
(6) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy'n ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle, mae'r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gerbydau y mae'r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson sy'n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda'r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu parcio ar y safle.
(7) Rhaid i'r wybodaeth gael ei darparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Cytundebau presennol: Hysbysiad o'r bwriad i roi'r cartref yn anrheg
5.—(1) Yr wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 13(5) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw'r wybodaeth a bennir ym mharagraffau (2) i (6) o'r rheoliad hwn.
(2) Ym mhob achos, mae'r wybodaeth yn cynnwys—
(a) enw'r meddiannydd arfaethedig ;
(b) eglurhad o effaith is-baragraffau (1) i (4) o baragraff 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013; ac
(c) ar ba seiliau a ragnodir yn rheoliad 7 y caiff y perchennog wneud cais i'r tribiwnlys am orchymyn gwrthod.
(3) Mewn achosion pan fo gan y safle gwarchodedig reolau cyn cychwyn neu reolau safle, mae'r wybodaeth hefyd yn cynnwys datganiad yn cadarnhau—
(a) bod y meddiannydd wedi rhoi copi o'r rheolau hynny i'r meddiannydd arfaethedig; a
(b) bod y meddiannydd arfaethedig wedi darllen ac wedi deall y rheolau hynny (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a'i fod yn gallu cydymffurfio â hwy.
(4) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy'n ymwneud ag oedran meddianwyr, mae'r wybodaeth hefyd yn cynnwys oedran y meddiannydd arfaethedig ac unrhyw berson sy'n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda'r meddiannydd arfaethedig.
(5) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid, mae'r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw anifeiliaid y mae'r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson arall sy'n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda'r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu cadw ar y safle (gan gynnwys, pan mai ci yw'r anifail, brîd y ci).
(6) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy'n ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle, mae'r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gerbydau y mae'r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson sy'n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda'r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu ei barcio ar y safle.
(7) Rhaid i'r wybodaeth—
(a) cael ei darparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 3 neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi; a
(b) mynd gyda’r dystiolaeth berthnasol (fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013).
Rhoi cartref symudol yn anrheg: tystiolaeth bod y meddiannydd arfaethedig yn aelod o deulu'r meddiannydd
6. Y dystiolaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 12(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013, yw'r dystiolaeth a ddarperir gan un neu ragor o'r canlynol—
(a) gwybodaeth ysgrifenedig ar lw a roddir gan y meddiannydd a'r meddiannydd arfaethedig sy'n egluro perthynas y meddiannydd arfaethedig â'r meddiannydd;
(b) tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu;
(c) tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil.
Cytundebau presennol: ar ba seiliau y caiff perchennog y safle wneud cais am orchymyn gwrthod
7.—(1) Y seiliau a ragnodir at ddibenion paragraff 10(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (gwerthu cartref symudol: cytundebau presennol) yw, pe bai'r meddiannydd arfaethedig yn dod yn feddiannydd, y byddai'r meddiannydd arfaethedig neu berson sy'n bwriadu preswylio gyda'r meddiannydd arfaethedig yn torri rheol cyn cychwyn neu reol safle—
(a) oherwydd oedran;
(b) drwy gadw anifeiliaid y caiff disgrifiad ohonynt ei bennu yn y rheol;
(c) drwy barcio cerbydau ar y safle y caiff disgrifiad ohonynt ei bennu yn y rheol; neu
(d) drwy barcio nifer o gerbydau ar y safle sy'n fwy na'r nifer a bennir yn y rheol.
(2) Y seiliau a ragnodir at ddibenion paragraff 13(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (rhoi cartref symudol yn anrheg: cytundebau presennol) yw—
(a) y seiliau a grybwyllir ym mharagraff (1); neu
(b) bod y meddiannydd arfaethedig wedi methu â darparu'r dystiolaeth berthnasol i'r perchennog (fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013).
(3) Pan fo safle yn eiddo i landlord cymdeithasol cofrestredig o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996([2]), ceir sail ragnodedig ychwanegol at ddibenion paragraffau 10(7) a 13(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013, pan fo gan y landlord bolisi ar waith ar gyfer dyrannu lleiniau i Sipsiwn a Theithwyr, y byddai gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg i’r meddiannydd arfaethedig yn mynd yn groes iddo.
Y gyfradd uchaf o gomisiwn sy'n daladwy ar werthiant cartref symudol
8. Y gyfradd a ragnodir at ddibenion paragraffau 9(4) a 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw 10% o bris prynu'r cartref symudol.
Ffurf aseiniad a hysbysiad o aseiniad
9.—(1) Rhaid i aseiniad cytundeb yn unol â pharagraff 9(1), 10(1), 12(1) neu 13(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd) gael ei wneud—
(a) yn ysgrifenedig; a
(b) ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 4 (neu ar ffurf y mae ei heffaith yn effaith yn sylweddol debyg iddi).
(2) O fewn 7 niwrnod i'r aseiniad, rhaid i'r aseinai gyflwyno hysbysiad o’r aseiniad i'r perchennog sy'n cydymffurfio â gofynion paragraffau (3) i (8) (“hysbysiad o aseiniad”).
(3) Ym mhob achos, rhaid i'r hysbysiad o aseiniad bennu—
(a) enw'r aseiniwr;
(b) enw'r aseinai ac unrhyw berson arall sy'n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda'r aseinai;
(c) cyfeiriad y cartref symudol;
(d) dyddiad aseinio'r cytundeb; ac
(e) cyfeiriad yr aseinwr ar gyfer anfon ymlaen.
(4) Yn achos gwerthu cartref symudol, rhaid i'r hysbysiad o aseiniad hefyd—
(a) pennu pris prynu'r cartref symudol a swm y comisiwn y mae'n ofynnol i'r aseinai ei dalu i'r perchennog o dan baragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd); a
(b) cynnwys eglurhad o'r gofynion a ragnodir gan reoliad 10 (talu comisiwn).
(5) Mewn achosion pan fo gan y safle reolau cyn cychwyn neu reolau safle, rhaid i'r hysbysiad o aseiniad hefyd gynnwys datganiad yn cadarnhau bod yr aseinai wedi darllen ac wedi deall y rheolau hynny (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a’i fod yn cytuno i gydymffurfio â hwy.
(6) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy'n ymwneud ag oedran meddianwyr, rhaid i'r hysbysiad o aseiniad hefyd bennu oedran yr aseinai ac unrhyw berson sy'n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda'r aseinai.
(7) Rhaid i'r hysbysiad o aseiniad—
(a) cael ei ddarparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 5, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi; a
(b) mynd gyda'r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (8).
(8) Dyma'r dogfennau—
(a) copi o'r offeryn sy'n rhoi effaith i'r aseiniad;
(b) yn achos gwerthiant, tystiolaeth ddogfennol o'r pris a delir gan yr aseinai am y cartref symudol;
(c) copi o unrhyw reolau cyn cychwyn neu reolau safle y derbyniodd yr aseinai hwy yn unol â rheoliad 3(1)(c) neu (d) (yn ôl y digwydd); a
(d) copi o'r cytundeb a’r datganiad ysgrifenedig y derbyniodd yr aseinai hwy yn unol â rheoliad 3(1)(a).
(9) Caniateir i’r hysbysiad o aseiniad a dogfennau eraill y mae’n ofynnol eu darparu i'r perchennog o dan y rheoliad hwn naill ai gael eu danfon at y perchennog yn bersonol neu eu hanfon drwy'r post.
Talu comisiwn
10.—(1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl derbyn yr hysbysiad o aseiniad, rhaid i'r perchennog ddarparu manylion y cyfrif banc y mae'r perchennog yn dymuno i'r aseinai dalu’r comisiwn iddo, sef y comisiwn y mae'n ofynnol i’r aseinai ei dalu i’r perchennog o dan baragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd).
(2) O fewn 7 niwrnod ar ôl derbyn y manylion hynny, rhaid i'r aseinai dalu'r comisiwn i'r cyfrif banc.
Rheolau cyn cychwyn sy'n ymwneud â gwerthiannau, anrhegion ac aseiniadau: materion a ragnodir
11.—(1) Nid oes gan reol cyn cychwyn sy’n ymwneud â gwerthu cartref symudol unrhyw effaith i’r graddau ei bod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn.
(2) Dyma'r materion—
(a) a ddylid atal y meddiannydd rhag gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg i unrhyw un heblaw am y perchennog;
(b) a ddylai fod yn ofynnol i'r meddiannydd hysbysu'r perchennog am fwriad y meddiannydd i werthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(c) a ddylai fod yn ofynnol i'r meddiannydd ddefnyddio gwasanaethau'r perchennog neu berson a bennir gan y perchennog at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(d) a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau asiant tai at ddibenion gwerthu'r cartref symudol;
(e) a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau a ddarperir gan gyfreithiwr at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg ac aseinio'r cytundeb;
(f) a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio unrhyw wasanaethau a fyddai fel arall ar gael i’r meddiannydd at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(g) a ddylid atal y meddiannydd rhag hysbysebu bod y cartref symudol ar werth drwy hysbysiad, bwrdd neu hysbyslen a osodir ar y cartref symudol neu ar y llain;
(h) a ddylai fod yn ofynnol i'r meddiannydd—
(i) trefnu bod arolwg o'r cartref symudol neu'r llain yn cael ei gynnal; neu
(ii) caniatáu i’r perchennog neu ei asiant gynnal arolwg o'r cartref symudol neu'r llain
cyn gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(i) a ddylai fod yn ofynnol i'r meddiannydd werthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg neu aseinio'r cytundeb ym mhresenoldeb y perchennog;
(j) a ddylai fod yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r meddiannydd arfaethedig ddarparu manylion personol y meddiannydd arfaethedig i berchennog y safle neu fanylion unrhyw berson arall sy'n bwriadu byw yn y cartref symudol gyda'r meddiannydd arfaethedig;
(k) a ddylai fod yn ofynnol i'r meddiannydd arfaethedig fynd i gyfarfod â'r perchennog.
(3) Mae'r canlynol yn enghreifftiau o “manylion personol”—
(a) cyfeiriad cartref neu fanylion cyswllt eraill y person o dan sylw;
(b) unrhyw wybodaeth ariannol sy’n ymwneud â'r person o dan sylw; ac
(c) manylion am oedran, tarddiad ethnig, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol y person dan sylw.
(4) Yn is-baragraffau (c), (d), (e), (f) ac (h) o baragraff (2) mae cyfeiriadau at werthu cartref symudol yn cynnwys cyfeiriad at farchnata, hysbysebu neu gynnig cartref symudol i'w werthu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014
ATODLEN 1 Rheoliad 3
Hysbysiad i feddiannydd arfaethedig
ATODLEN 2 Rheoliad 4
Hysbysiad o'r bwriad i werthu
FFURFLEN HYSBYSIAD O'R BWRIAD I WERTHU (ffurflen i'w chwblhau gan y gwerthwr a’r prynwr a'i rhoi i berchennog y safle— Ar gyfer cytundebau presennol yn unig (gweler nodyn (i)) |
||||||||
I …………………………………………………….. (mewnosoder enw perchennog y safle) Gan ………………………………………………….(mewnosoder enw'r gwerthwr/gwerthwyr) |
||||||||
Adran 1 - Partïon Myfi/Ni yw perchennog/perchnogion y cartref symudol yn ……………………………………………………………………… ……………………………………………………………………… ………………………………………………(mewnosoder enw a chyfeiriad y cartref symudol) yr ydw i/yr ydym ni yn bwriadu ei werthu i ……………………………………… …………………………………………………………………………………………………… …………………………………………………………….(mewnosoder enw'r prynwr/prynwyr). |
||||||||
Adran 2 (i'w chwblhau ddim ond os oes gan y safle reolau ynghylch cyfyngiadau oedran, anifeiliaid anwes neu gerbydau) [Gweler nodyn (ii)] (i) Rwyf wedi rhoi copi o'r rheolau i'r meddiannydd [prynwr] arfaethedig. Mae'r meddiannydd [prynwr] arfaethedig yn cadarnhau ei fod wedi darllen ac wedi deall y rheolau (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) ac yn gallu cydymffurfio â hwy. (ii) Safle gyda rheol(au) yn ymwneud â chadw anifeiliaid: Nid yw'r meddiannydd arfaethedig yn bwriadu cadw anifeiliaid ar y safle/Mae'r meddiannydd arfaethedig yn bwriadu cadw'r anifeiliaid canlynol ar y safle (dileer fel y bo'n briodol). Os ydych yn bwriadu cadw anifeiliaid, rhowch fanylion y math o anifail/anifeiliaid a'r nifer a, phan mai ci yw'r anifail, y brîd: …………………………………………………………………………………. …………………………………………………………………………………. (iii) Safleoedd gyda rheol(au) yn ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle: Mae'r/Nid yw'r meddiannydd arfaethedig yn bwriadu parcio cerbydau ar y safle (dileer fel y bo'n briodol). ……………………………………………………………………………………….. ……………………………………………………………………………………….. ……………………………………………………………………………………….. Rhowch ddisgrifiad o'r cerbydau dan sylw. Peidiwch â rhoi'r rhifau cofrestru (iv) Safleoedd â rheol(au) yn ymwneud ag oedran meddianwyr: Mae'r meddiannydd arfaethedig yn cadarnhau y byddai'r personau canlynol yn meddiannu'r cartref symudol fel eu hunig breswylfa neu eu prif breswylfa:
|
Adran 3 – Llofnod (gweler nodyn (iii)) Llofnod Dyddiedig: (y gwerthwr)
Llofnod Dyddiedig: (y prynwr) At sylw perchennog y safle Os oes gennych unrhyw ymholiadau rhowch wybod i'r gwerthwr cyn gynted â phosibl. Os byddwch yn penderfynu gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod rhaid i chi wneud y cais a chyflwyno hysbysiad o’r cais i'r gwerthwr, o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn. Os nad yw'r gwerthwr yn derbyn hysbysiad o’ch cais am orchymyn gwrthod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau, caiff y gwerthwr fwrw ymlaen â'r gwerthiant heb ymgynghori â chi ymhellach ac ni fydd y tribiwnlys yn gallu ystyried eich cais.
|
Nodiadau (i) Cytundeb presennol yw cytundeb a wnaed cyn i adran 48(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn ac a wnaed ar 30 Medi 2014 neu cyn hynny ac nad yw wedi ei aseinio ers y dyddiad hwnnw. Dim ond ar gyfer cartrefi symudol sy'n cael eu gwerthu o dan gytundebau presennol y mae'n rhaid cwblhau'r ffurflen hon. Pan gaiff cytundeb ei wneud ar 1 Hydref 2014 neu ar ôl hynny neu os cafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw ond ei fod wedi ei aseinio ar un achlysur neu ragor er 30 Medi 2014, gall y cartref symudol gael ei werthu a'r cytundeb ei aseinio heb fod angen hysbysu perchennog y safle (gweler paragraff 9(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013). (ii) Yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014, yr unig seiliau y gellir gwneud cais am orchymyn gwrthod arnynt yw, pe bai'r meddiannydd arfaethedig yn dod yn feddiannydd, y byddai'r meddiannydd arfaethedig neu'r person sy'n bwriadu preswylio gyda'r meddiannydd arfaethedig yn torri rheol cyn cychwyn neu reol safle: (a) oherwydd oedran, (b) drwy gadw anifeiliaid y caiff disgrifiad ohonynt ei bennu yn y rheol, (c) drwy barcio cerbydau ar y safle y caiff disgrifiad ohonynt yn y rheol, (d) drwy barcio nifer o gerbydau ar y safle sy'n fwy na'r nifer a bennir yn y rheol. (iii) Cyn llofnodi'r ffurflen rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn wir, yn gywir ac yn gyfredol (hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred) . |
ATODLEN 3 Rheoliad 5
Hysbysiad o'r bwriad i roi'r cartref yn anrheg
FFURFLEN HYSBYSIAD O'R BWRIAD I ROI'R CARTREF YN ANRHEG (ffurflen i'w chwblhau gan y meddiannydd a'i rhoi i berchennog y safle— Ar gyfer cytundebau presennol yn unig (gweler nodyn (i)) |
||||||||
I ……………………………………………(mewnosoder enw perchennog y safle) Gan …………………………………………(mewnosoder enw meddiannydd) |
||||||||
Adran 1 Myfi/Ni yw perchennog/perchnogion y cartref symudol yn ………………………………………………………. ………………………………………………………. ………………………………………………………. ………………………………………………………. (mewnosoder enw a chyfeiriad y cartref symudol) Rydw i/rydym ni yn bwriadu ei roi yn anrheg i ………………………………………………………. ………………………………………………………. ………………………………………………………. (mewnosoder enw'r meddiannydd arfaethedig) sef fy …………………………………………………..(mewnosoder eich perthynas â'r meddiannydd arfaethedig) (gweler nodyn (ii)). Amgaeaf y dystiolaeth berthnasol ganlynol (ticiwch un neu ragor fel y bo'n berthnasol) (gweler nodyn (iii)) — datganiad ysgrifenedig ar lw, yn egluro’r berthynas deuluol rhwng y meddiannydd a'r meddiannydd arfaethedig [ ] — tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu [ ] — tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil [ ] — tystiolaeth berthnasol arall (disgrifiwch) [ ] ……………………………………………………………………. ……………………………………………………………………. |
||||||||
Adran 2 (i'w chwblhau dim ond os oes gan y safle reolau o ran cyfyngiadau oedran, anifeiliaid anwes neu gerbydau) [Gweler nodyn (iv)] (i) Rwyf wedi darparu copi o'r rheolau i'r meddiannydd arfaethedig. (ii) Mae'r meddiannydd arfaethedig yn cadarnhau ei fod wedi darllen ac wedi deall y rheolau (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) ac yn gallu cydymffurfio â hwy. (iii) Safleoedd â rheol(au) yn ymwneud â chadw anifeiliaid: Nid yw'r meddiannydd arfaethedig yn bwriadu cadw anifeiliaid ar y safle/Mae'r meddiannydd arfaethedig yn bwriadu cadw'r anifeiliaid canlynol ar y safle (dileer fel y bo'n briodol). Os yw'r meddiannydd arfaethedig yn bwriadu cadw anifeiliaid, rhowch fanylion y math o anifail/anifeiliaid a'r nifer(oedd) a, phan mai ci yw'r anifail, y brîd: …………………………………………………………………………………………. …………………………………………………………………………………………. …………………………………………………………………………………………. (iv) Safleoedd â rheol(au) yn ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle: Mae'r/Nid yw'r meddiannydd arfaethedig yn bwriadu parcio cerbydau ar y safle (dileer fel y bo'n briodol). ………………………………………………………………………………………… ………………………………………………………………………………………… ………………………………………………………………………………………… Rhowch ddisgrifiad o'r cerbydau dan sylw. Peidiwch â rhoi'r rhifau cofrestru (v) Safleoedd â rheol(au) yn ymwneud ag oedran meddianwyr: Mae'r meddiannydd arfaethedig yn bwriadu y byddai'r personau canlynol yn meddiannu'r cartref symudol fel eu hunig breswylfa neu eu prif breswylfa:
|
||||||||
Adran 3 – Llofnod (gweler nodyn (v))
|
||||||||
At sylw perchennog y safle Os oes gennych unrhyw ymholiadau rhowch wybod i'r meddiannydd cyn gynted â phosibl. Os byddwch yn penderfynu gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod rhaid ichi wneud y cais a chyflwyno hysbysiad o’r cais i'r meddiannydd, o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn. Os nad yw'r meddiannydd yn cael hysbysiad o’ch cais am orchymyn gwrthod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau, caiff y meddiannydd fwrw ymlaen â'r gwerthiant heb ymgynghori â chi ymhellach ac ni fydd y tribiwnlys yn gallu ystyried eich cais. |
||||||||
Nodiadau (i) Cytundeb presennol yw cytundeb a wnaed cyn i adran 48(1) o Ddeddf Cartref Symudol (Cymru) 2013 gychwyn ac a wnaed ar 30 Medi 2014 neu cyn hynny ac nad yw wedi ei aseinio ers y dyddiad hwnnw. Dim ond ar gyfer cartrefi symudol sy'n cael eu rhoi yn anrheg o dan gytundebau presennol y mae'n rhaid cwblhau'r ffurflen hon. Pan gafodd cytundeb ei wneud ar 1 Hydref 2014 neu wedi hynny neu os cafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw ond ei fod wedi ei aseinio ar un achlysur neu ragor er 30 Medi 2014, gall y cartref symudol gael ei werthu a'r cytundeb ei aseinio heb fod angen hysbysu perchennog y safle (gweler paragraff 12(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013). (ii) Yn unol â'r diffiniad yn adran 55 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, ystyrir bod y canlynol yn aelod o deulu person— — priod neu bartner sifil person neu unrhyw berson sy'n byw gyda'r person fel partner mewn perthynas deuluol barhaus, — rhieni, teidiau a neiniau, plant ac wyrion ac wyresau y person (gan gynnwys unrhyw berson sy’n y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus) ac unrhyw berson arall sy’n cael ei drin gan y person fel plentyn teulu'r person, a — brodyr, chwiorydd, ewythrod, modrybedd, neiaint a nithoedd y person (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus). (iii) Mae angen i chi ddarparu tystiolaeth berthnasol i ddangos eich bod yn rhoi cartref symudol yn anrheg i aelod o'ch teulu, fel y nodir ym mharagraffau 12 a 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Mae Rheoliad 6 yn rhestru'r dystiolaeth berthnasol a ragnodir gan Weinidogion Cymru ond bydd unrhyw dystiolaeth foddhaol arall sy'n dangos bod y person yr ydych yn bwriadu rhoi'r cartref symudol yn anrheg iddo yn aelod o'ch teulu, hefyd yn bodloni'r diffiniad o dystiolaeth berthnasol. (iv) O dan reoliad 7 o Reoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014, yr unig seiliau y gall cais am orchymyn gwrthod gael ei wneud arnynt yw, pe bai'r meddiannydd arfaethedig yn dod yn feddiannydd, y byddai'r meddiannydd arfaethedig neu'r person sy'n bwriadu preswylio gyda'r meddiannydd arfaethedig yn torri rheol cyn cychwyn neu reol safle: (a) oherwydd oedran, (b) drwy gadw anifeiliaid y caiff disgrifiad ohonynt ei bennu yn y rheol, (c) drwy barcio cerbydau ar y safle y caiff disgrifiad ohonynt yn y rheol, (d) drwy barcio nifer o gerbydau ar y safle sy'n fwy na'r nifer o bennir yn y rheol. (v) Cyn llofnodi'r ffurflen rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn wir, yn gywir ac yn gyfredol (hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred). |
||||||||
|
ATODLEN 4 Rheoliad 9(1)
Ffurflen aseiniad
Ffurflen Aseiniad (i'w chwblhau gan yr aseiniwr/aseinwyr a'r aseinai/aseineion) |
||||||||
Yn y ffurflen hon, ystyr “y cytundeb” yw'r cytundeb o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 rhwng y meddiannydd a pherchennog y safle sy'n rhoi’r hawl i'r meddiannydd osod cartref symudol ar lain. |
||||||||
Adran 1: Y Partïon [gweler nodyn (i)] Rhwng yr aseiniwr: ………………………………………………………………………………….. ……………………………………………….(mewnosoder enw a chyfeiriad y person sy'n aseinio'r cytundeb) A'r aseinai: …………………………………………………………………………………… ……………………………………………..(mewnosoder enw a chyfeiriad y person y caiff y cytundeb ei aseinio iddo) Mae'r aseiniwr yn aseinio'r cytundeb i'r aseinai ynghyd â'r holl hawliau a chyfrifoldebau sydd ynghlwm wrtho. |
||||||||
Adran 2: Gwerthiannau (ar gyfer cwblhau gwerthiannau cartrefi symudol yn unig, nid ar gyfer rhoi cartrefi symudol yn anrheg) Mae'r aseinai wedi talu pris prynu o £…………………………………………. i'r aseiniwr (mewnosoder pris y gwerthiant) ar gyfer (a) y cartref symudol sydd wedi ei leoli yn ……………………………………………. ………………………………………………………………………………….. ………………………………………………………………………………….. a (b) ar gyfer aseinio'r cytundeb. Talu Comisiwn O'r pris prynu o £…………………… mae'r aseinai yn cytuno i dalu swm o £………………………………………. i berchennog y safle mewn perthynas â'r comisiwn sy'n ddyledus i berchennog y safle o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 [gweler nodyn (ii)]. |
||||||||
Adran 3: Ffi am y Llain Mae'r aseinai yn cytuno i dalu’r ffi am y llain a chadw at delerau'r cytundeb. Y ffi bresennol am y llain yw £……………………………………… yr wythnos/y mis/bob chwarter/y flwyddyn (dileer fel y bo'n berthnasol) Y dyddiad nesaf ar gyfer adolygu’r ffi am y llain yw ……………………………………………..(mewnosoder dyddiad adolygu blynyddol) Mae'r aseinai yn addo indemnio'r aseiniwr yn erbyn unrhyw hawliad neu achos cyfreithiol sy'n codi oherwydd bod yr aseinai wedi methu â gwneud y taliadau sy'n ddyledus ganddo neu wedi methu â chadw at delerau'r cytundeb.
|
Nodiadau (i) Yr aseiniwr yw'r person sy'n gwerthu neu'n rhoi'r cartref symudol yn anrheg ac yn aseinio'r cytundeb a'r aseinai yw'r person y caiff y cartref symudol ei werthu iddo neu ei roi iddo yn anrheg ac y caiff y cytundeb ei aseinio iddo. (ii) O dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 y swm uchaf o gomisiwn y gall perchennog y safle ei gwneud yn ofynnol i chi ei dalu yw 10% o'r pris prynu. O dan reoliad 10 o Reoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014 mae'n ofynnol i chi dalu'r comisiwn i berchennog y safle o fewn 7 niwrnod ar ôl y dyddiad pan mae perchennog y safle yn darparu manylion y cyfrif banc i chi, y mae'n ofynnol i'r comisiwn gael ei dalu iddo. |
ATODLEN 5 Rheoliad 9(7)
Hysbysiad o aseiniad
HYSBYSIAD O ASEINIAD (i'w gwblhau gan yr aseinai/aseineion a'i anfon at berchennog/perchnogion y safle o fewn 7 niwrnod ar ôl i'r cytundeb gael ei aseinio) |
Adran 1 – Manylion y partïon I: …………………………………………………………………….. ………………………………………….......(mewnosoder enw perchennog/perchnogion y safle) Gan: ………………………………………………………………………….. …………………………………………………………………………………. ……………………………………(mewnosoder enw(au) y meddiannydd/meddianwyr newydd) Myfi/Ni yw meddianwyr newydd y cartref symudol a leolir yn …………………….. ………………………………………………………………………………………… ………………………………………………………………………………………… ………………………………………………………………………………………… Cafodd cytundeb y llain ei aseinio i mi/ni ar .......................(mewnosoder dyddiad yr aseiniad) gan...................................................................................(mewnosoder enw y meddiannydd/meddianwyr blaenorol) yn unol â thelerau a nodir yn y datganiad ysgrifenedig/cytundeb ac yn cynnwys y rheini sydd ymhlyg yn y cytundeb drwy Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Cyfeiriad y meddiannydd blaenorol yw: ……………………………………………………………………………………. ……………………………………………………………………………………. ……………………………………………………………………………………. ……………………………………………………………………………………. Nodyn: Pan fo gwrthdaro rhwng term datganedig yn y cytundeb a therm ymhlyg, mae'r term ymhlyg yn drech na'r term datganedig a'r term ymhlyg sy'n rheoli’r cytundeb. |
Adran 2 - pris prynu a thalu comisiwn (i'w chwblhau ar gyfer gwerthiannau'n unig, nid ar gyfer rhoi yn anrheg) Pris Prynu Prynais i/Prynom ni y cartref symudol am £……………………….(mewnosoder cyfanswm y pris prynu) y mae'r swm o £…………………………….(mewnosoder swm) yn gomisiwn sy'n ddyledus i berchennog y safle o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Talu Comisiwn Mae'n ofynnol i berchennog y safle ddarparu manylion y cyfrif banc i mi y dylai'r comisiwn gael ei dalu iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn. Nodyn: Mae gan y meddiannydd newydd 7 niwrnod ar ôl y dyddiad pan mae'n derbyn manylion banc perchennog y safle i dalu'r comisiwn i berchennog y safle. |
Adran 3 – personau sy'n preswylio yn y cartref symudol Rwy'n/Rydym ni yn cadarnhau y bydd y personau canlynol yn meddiannu'r cartref symudol fel eu hunig breswylfa neu eu prif breswylfa
(DS: Dim ond os oes gan y parc reolau safle mewn perthynas ag oedran y dylid darparu oedran y personau sy'n preswylio yn y cartref symudol)
|
||||||||||
Adran 4 (i'w chwblhau ddim ond os oes gan y parc reolau safle o ran cyfyngiadau oedran, anifeiliaid anwes neu gerbydau) Rydw i/Rydym ni wedi darllen ac wedi deall rheolau'r safle (neu mae rhywun wedi eu hegluro i mi/ni) ac yn cytuno i gydymffurfio â hwy.
|
||||||||||
Adran 5 – Dogfennau Amgaeaf y dogfennau canlynol a ddarparwyd i mi gan y meddiannydd blaenorol er gwybodaeth (ticiwch bob dogfen a ddarparwyd); Copi o offeryn yr aseiniad [ ] Copi o unrhyw reolau cyn cychwyn/rheolau safle [ ] Copi o'r cytundeb, telerau ymhlyg a datganiad ysgrifenedig [ ] Tystiolaeth ddogfennol am y pris a dalwyd am y cartref symudol [ ]
|
||||||||||
Adran 6 – Llofnod
Nodyn: Cyn llofnodi'r ffurflen rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn wir, yn gywir ac yn gyfredol (hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred). |